Trafod cau tair ysgol yn ardal Caernarfon
- Cyhoeddwyd

Mae pryderon wedi bod am gyflwr adeiladau fel Ysgol y Groeslon
Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod cynlluniau ddydd Mercher i gau tair ysgol gynradd yn ardal Caernarfon ac agor ysgol ardal ar gost o £4.8m.
Mae'r tair ysgol yn Y Groeslon, Carmel a'r Fron a byddai'r ysgol newydd yn Y Groeslon.
Ychydig fisoedd yn ôl roedd rhieni a disgyblion yn Y Groeslon yn protestio oherwydd cyflwr yr ysgol.
Ond mae gwrthwynebiad i'r cynlluniau yn y Fron a Charmel.
'Sefyllfa argyfyngus'
Yn ôl Dewi Llwyd Evans, sy'n byw yn y Fron:
Adroddiad Alun Rhys
"Dwi'n anhapus hefo'r sefyllfa achos dwi'm yn siŵr a ydyn nhw go wir wedi edrych i fewn i strategaeth i Ddyffryn Nantlle.
"Yn y pendraw, mae pethau 'di digwydd. Maen nhw 'di cau uned anghenion arbennig yn Bron y Foel, y niferoedd yn mynd lawr, dy'n nhw ddim 'di buddsoddi'n y safle yn Y Groeslon.
"Felly ma' gynnoch chi sefyllfa argyfyngus lle mae'n rhaid iddyn nhw wneud rhywbeth efo criw'r Groeslon ac mae gen i bob cydymdeimlad efo nhw.
"Ond yn y pendraw, lle mae pobl pentre' Foel isho mynd, a lle ydy'r lle naturiol i gael yr ysgol - wel, nid Y Groeslon ydy o."
'Cynaladwyedd hirdymor'
Yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sian Gwenllian, luniodd yr argymhelliad ac meddai:
"Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi edrych yn fanwl ar sawl opsiwn a lleoliad posibl a'u heffaith posibl ar addysg disgyblion, cynaladwyedd hirdymor addysg yn yr ardal a'r iaith Gymraeg.
"Cadarnhaodd y gwaith yma mai adeiladu ysgol ardal newydd ar un safle oedd yr ateb gorau o bell ffordd o ran darparu cyfleoedd addysgol ac ieithyddol i ddisgyblion y tair cymuned.
"Yn benodol, dangosodd yr asesiad ardrawiad iaith annibynnol y byddai'r opsiwn o adeiladu ysgol ardal newydd ar un safle yn cryfhau sefyllfa'r iaith Gymraeg ar draws yr ardal gan y byddai mwyafrif sylweddol o'r disgyblion yn dod o gartrefi Cymraeg eu hiaith.
"Yn ogystal, cododd y gwaith ymchwil manwl yma bryderon y byddai ysgol aml-safle yn niweidiol i'r iaith yn yr ardal.
"Hefyd, cadarnhaodd y gwaith a gynhaliwyd yn lleol dros y misoedd diwethaf mai safle presennol Ysgol y Groeslon oedd y safle mwyaf addas ar gyfer adeiladu'r ysgol ardal newydd".
Blaenoriaethau
Pan drafododd y cyngor gynlluniau yn Hydref 2012 cyfeiriwyd at dair blaenoriaeth:
gwella'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Y Groeslon;
mynd i'r afael â'r gostyngiad sylweddol yn nifer disgyblion ysgolion uwchradd ardal Meirionnydd;
gwneud gwaith ymchwil i leoedd gweigion yn ysgolion y sir, gan gyflwyno cynlluniau i leihau'r broblem.
Clywodd y cyfarfod mai yng Ngwynedd yr oedd y ganran uchaf yng Nghymru o leoedd gweigion, sef 28%, a bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r cyngor ostwng hynny i 15% o fewn tair blynedd.
Bydd y cyfarfod ddydd Mercher yn dechrau am 1pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2012