Wyth cwmni â diddordeb i brynu ffatri gaws yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Mae'r ffatri'n cynhyrchu caws mozzarella
Mae rheolwyr cwmni Saputo yn dweud bod gan wyth o gwmnïau ddiddordeb mewn prynu'r safle yng Nghastell Newydd Emlyn.
Mewn cyfarfod yng Nghastell Newydd Emlyn fe glywodd ffermwyr llaeth y bydd y cwmni yn cadw at eu cytundeb ac yn parhau i brynu eu llaeth am flwyddyn arall er gwaetha'r cynllun i gau'r safle.
Os na fydd 'na brynwr, fe allai 70 o bobl golli eu gwaith.
Bu tua 40 o ffermwyr llaeth sy'n cyflenwi'r ffatri â llaeth yn y cyfarfod ddydd Gwener.
Cyfnod ymgynghori
Bydd yn rhaid i'r ffermwyr rhoi rhybudd tri mis os ydynt am roi'r gorau i'w cytundebau gyda'r cwmni.
Dywedodd rheolwr y ffatri, Campbell Appleton wrth y cyfarfod fod wyth cwmni wedi dangos diddordeb mewn prynu'r safle.
Dywedodd wrth y ffermwyr yng nghlwb rygbi'r dref fod y galw am gaws mozzarella wedi lleihau'n arw.
Ychwanegodd fod y ffatri'n prosesu 50 miliwn litr o laeth bob blwyddyn ond y gallai delio â thair gwaith yn fwy o laeth.
Mae'r cwmni wedi dechrau ar gyfnod ymgynghori 30 diwrnod gyda'r staff.
Bydd y ffatri'n cau os na fydd prynwr yn camu i'r adwy.
Mae cwmni Saputo wedi bod yn berchen ar y ffatri yng Nghastell Newydd Emlyn er 2007, wedi i gwmni Dansco fynd i'r gwellt.
Yn 2009 collodd 40 aelod o staff eu swyddi yno oherwydd gostyngiad ym mhris caws a diffyg cyflenwyr llaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2013
