Cig ceffyl: Ffatri'n cael ailagor
- Cyhoeddwyd

Mae perchennog Farmbox, Dafydd Raw-Rees, yn mynnu na wnaeth dim o'i le
Mae ffatri gig yn y canolbarth a gafodd ei chau yn ystod y sgandal cig ceffyl wedi cael caniatâd amodol i ailagor.
Cafodd gwaith yn ffatri Farmbox Meats yn Llandre ger Aberystwyth ei atal ar Chwefror 12 gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fel rhan o ymchwiliad i gam-labelu cynnyrch cig honedig.
Dywedodd yr asiantaeth ddydd Llun eu bod am godi'r gwaharddiad gan ganiatáu i'r ffatri weithredu o dan ganiatâd amodol.
Dywedodd yr asiantaeth y bydd penderfyniad ar ganiatâd llawn yn cael ei wneud ar Ebrill 5.
Dyna'r diwrnod y bydd yr amodau ailagor i'r ffatri yn dod i ben.
Roedd yr ASB wedi gofyn i Farmbox roi sicrwydd ar rai materion cyn i'r ffatri gael yr hawl i ailagor.
Roedd hefyd wedi dweud wrth y busnes y gallai'r caniatâd gael ei dynnu nôl pe bai "digon o dystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio gyda'r holl ofynion i weithredwyr busnesau bwyd".
Yn dilyn y gwaharddiad ar Chwefror 12, mynnodd perchennog Farmbox, Dafydd Raw-Rees, na fu unrhyw heintio o gig yn y ffatri a'i fod yn teimlo ei fod yn fwch dihangol.
Gwrthododd Mr Raw Rees wneud sylw yn dilyn cyhoeddiad diweddaraf yr ASB.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2013