Llofruddiaeth: Tad yn y llys
- Cyhoeddwyd

Bu farw Joshua Reece Davies y penwythnos diwethaf
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio'i fab.
Cafodd Neil John Davies ei arestio yn ei gartref yn Llanrhymni, Caerdydd, ddydd Sul diwethaf wedi i Joshua Reece Davies, 24 oed, ddiodde' anaf trywanu i'w wddf, ac anafiadau i'r frest.
Ymddangosodd y diffynnydd 54 oed gerbron Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd Neil Davies ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar Fehefin 4 pan y bydd disgwyl iddo bledio ar y cyhuddiadau yn ei erbyn.
Yn y cyfamser mae'r heddlu yn parhau i geisio creu darlun llawn o'r hyn ddigwyddodd yn Cranleigh Rise, Llanrhymni dros y penwythnos diwethaf.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tudor Thomas o Heddlu'r De: "Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am y gefnogaeth yr ydym eisoes wedi ei dderbyn yn ystod yr ymchwiliad.
"Mae ein hymchwiliad yn parhau er bod dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth. Byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod yn berthnasol i'r ymchwiliad, neu oedd yn Cranleigh Rise yn oriau mân fore Sul diwethaf i ffonio'r heddlu."
Mae cais i bobl all fod o gymorth ffonio'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2013