Ponty'n gorffen ar y brig
- Cyhoeddwyd

Mae Pontypridd wedi sicrhau mai nhw fydd yn gorffen ar frig Uwchgynghrair Rygbi'r Principality y tymor hwn.
Roedden nhw eisoes ymhell ar y blaen i'r gweddill, ond fe ddaeth buddugoliaeth ysgubol nos Fawrth oddi cartref yng Nghaerdydd i gadarnhau hynny.
Sgoriodd yr ymwelwyr bum cais - gan Roberts, Thomas (2), Williams, Jenkins - gan drosi'r cyfan i ennill o 35-7.
Daeth un cais cysur i Gaerdydd.
Canlyniad
Caerdydd 7-35 Pontypridd
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol