Y Meistri: Twll mewn un i Jamie Donaldson
- Cyhoeddwyd

Jamie Donaldson enillodd Bencampwriaeth HSBC yn Abu Dhabi ym mis Ionawr
Cyflawnodd Jamie Donaldson y gamp o daro'r bêl i'r twll gydag un ergyd yn ystod rownd gyntaf un o gystadlaethau golff mwya'r byd, Meistri'r Unol Daleithiau, nos Iau.
Cyflawnodd Donaldson, 38 oed, y twll mewn un ar chweched twll y cwrs yn Augusta.
Ar ddiwedd y rownd gyntaf roedd Donaldson ddau ergyd yn waeth na'r safon gan orffen â 74 ergyd.
Am y tro cyntaf ers 2004 mae dau Gymro'n cystadlu yn Y Meistri.
Fel cyn-enillydd, mae gan Ian Woosnam yr hawl i gystadlu ar gwrs enwog Augusta National am weddill ei oes ond ni chafodd y Cymro gymaint o hwyl â Donaldson.
Gorffennodd Woosnam ei rownd gyda sgôr o 80 - wyth yn waeth na'r safon.
Ers buddugoliaeth Woosnam yn 1991, y perfformiad gorau yn Augusta gan Gymro oedd pan orffennodd Phil Price yn 35ed yn 2004.
Bydd Donaldson yn gobeithio gwella ar hynny yn ystod y penwythnos.
Pencampwriath y Meistri'r Unol Daleithiau: Rownd gyntaf
=1. Marc Leishman (Awstralia): -6 (66)
=1. Sergio Garcia (Sbaen): -6 (66)
3. Dustin Johnson (America): -5 (67)
=57. Jamie Donaldson (Cymru): +2 (74)
91. Ian Woosnam (Cymru): +8 (80)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd13 Awst 2012
