Ymgyrch Pallial: Holi dyn ar amheuaeth o droseddau rhyw
- Cyhoeddwyd

Mae Ymgyrch Pallial yn edrych ar achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn cartrefi gofal fel Bryn Estyn, Wrecsam
Mae dyn wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad annibynnol i achosion hanesyddol o gam-drin plant yng ngogledd Cymru.
Cadarnhaodd swyddogion sy'n rhan o Ymgyrch Pallial fod y dyn wedi cael ei arestio yn Ipswich, Suffolk, ar amheuaeth o nifer o droseddau rhyw yn erbyn unigolion.
Bydd yn cael ei holi mewn gorsaf heddlu yng ngogledd Cymru.
Dyma'r tro cynta' i rywun gael ei arestio fel rhan o'r ymgyrch a ddechreuodd fis Tachwedd y llynedd.
Mae'r ymgyrch yn cael ei harwain gan y Ditectif Uwch-arolygydd Ian Mulcahey o Heddlu Glannau Mersi, gyda chefnogaeth swyddogion a staff yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCA), y Ganolfan Cam-fanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) a heddluoedd ar draws y wlad.
Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, Keith Bristow, sy'n bennaf gyfrifol am Ymgyrch Pallial.
Bydd adroddiad ar gasgliadau'r ymchwiliad hyd yma yn cael eu cyflwyno i Brif Gwnstabl Gogledd Cymru, Mark Polin a'r Swyddfa Gartref ar ddydd Llun, Ebrill 29.
Bydd crynodeb o'r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi'r un pryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2012

- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2012

- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
