'Anifeiliaid yn pydru wedi'r eira'
- Cyhoeddwyd

Mae nifer uchel o anifeiliaid wedi marw yn dilyn yr eira mis Mawrth
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio y gallai clefydau ledu os nad ydy cyrff anifeiliaid yn cael eu symud yn gyflym.
Wedi'r tywydd garw ym mis Mawrth mae nifer uchel o anifeiliaid wedi marw a ffermwyr wedi cael trafferth eu symud.
Mae cwmnïau sydd yn casglu'r cyrff yn dweud bod llawer o alw am eu gwasanaeth.
Yn ôl y ddau gwmni mwyaf yn y gogledd, Cluttons a Cymru Lan hwn yw un o'r cyfnodau prysuraf erioed.
Canllawiau
Maen nhw'n honni eu bod nhw wedi gorfod cysylltu gyda Llywodraeth Cymru ei hunain er mwyn cael y canllawiau cywir ond mae Llywodraeth Cymru yn gwadu hyn.
Aeth Aled Hughes o Radio Cymru draw i fferm yn y gogledd a gweld anifeiliaid marw ar y tir oedd yn barod i gael eu casglu ar Fawrth 13.
Mae'r undeb wedi dweud bod nifer o ffermwyr yn yr un sefyllfa.
Dywedodd Gwyn Williams o'r undeb: "Mae hyn yn rhywbeth dyddiol ac rydyn ni eisiau i'r gweinidog Alun Davies edrych ar y rheolau o safbwynt claddu anifeiliaid unwaith eto."
Hirwyntog
Honnodd yr undeb fod proses cael caniatâd i gladdu'r anifeiliaid yn un hirwyntog.
Ychwanegodd Mr Williams: "Os nad oes yna weithredu yn digwydd yn syth a chamau yn cael eu cymryd fe fyddwn ni mewn sefyllfa lle y bydd clefydau yn lledu oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru yn delio gyda'r hyn sydd yn digwydd."
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi wfftio'r honiadau.
Maen nhw wedi dweud nad yw'r broses o gladdu yn hirwyntog a'u bod wedi cytuno y byddai mwy o gasglwyr ar gael ar gyfer ffermwyr os oes oedi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2013