April Jones: Dewis rheithgor terfynol
- Cyhoeddwyd

Fe ddechreuwyd un o'r ymgyrchoedd mwyaf yn hanes yr heddlu yn y DU pan ddiflannodd April Jones
Mae'r broses o ddewis y rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones yn parhau ddydd Mawrth.
Mae Mark Bridger, 47 oed, o Geinws, Machynlleth yn gwadu iddo lofruddio a herwgipio'r ferch bump oed a ddiflannodd ar Hydref 1 y llynedd.
Fe'i gwelwyd hi ddiwethaf yn chwarae gyda'i ffrindiau yn agos i'w chartref ym Machynlleth.
Er y chwilio dyw ei chorff ddim wedi cael ei ddarganfod.
Y rheithgor
Ddydd Llun fe ddechreuwyd penderfynu pwy fydd yr unigolion fydd ar y rheithgor terfynol yn Llys y Goron y Wyddgrug.
Cafodd y 50 cychwynnol y cyfle i roi rhesymau i'r barnwr pam nad oedden nhw am fod yn rhan o'r achos llys.
Roedd y barnwr wedyn yn medru gwrthod neu dderbyn eu hesboniad a 30 o bobl yn cael eu dewis i ddod yn ôl i'r llys ar gyfer y diwrnod canlynol.
Dywedodd Mr Ustus John Griffith-Williams na ddylai unrhyw un sydd gyda, neu sydd wedi cael, cysylltiadau ag ardal Machynlleth yn y gorffennol eistedd ar y rheithgor.
Ddydd Mawrth mi fydd y rheithgor posib yn cael ei leihau o 30 i 12.
Bydd y 12 terfynol yn cael eu dewis drwy dynnu enwau o het.
Fe allai'r achos llys bara tan ganol mis Mehefin.
Mae disgwyl i aelodau'r rheithgor ymweld â gwahanol safleoedd o gwmpas Machynlleth ddydd Iau.