Gŵyl ffotograffiaeth ryngwladol yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae 'Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd', rhaglen mis o arddangosfeydd, dangosiadau, perfformiadau a digwyddiadau ledled y ddinas, yn dechrau ar 1 Mai. Helen Sear

Ymhlith y digwyddiadau bydd y dangosiad cyntaf erioed o B O R T H, sef gosodiad ffilmiau a leolir ym mhentref Borth, ger Aberystwyth, gan y gwneuthurwr ffilmiau Gideon Koppel

Bydd arddangosiad unigol cyntaf artist o'r Eidal, Maurizio Anzeri, yn ystod yr ŵyl gyda gwaith newydd ynghyd â darnau "ffoto-cerfluniol"

Yn 'The Time Machine' gan Edgar Martins mae'r artist o Bortiwgal yn arddangos lluniau a gymerodd mewn 20 o safleoedd pŵer a adeiladwyd rhwng y 1950au a'r 1970au

Mae arddangosfa 'The Valleys Re-Presented' yn y Tramshed (hen ddepo bysus a thramiau Caerdydd) yn cynnwys gwaith archifol gan ffotograffwyr fel David Bailey, Peter Fraser, David Hurn, Bruce Gilden a John Davies ynghyd â phrosiectau a gomisiynwyd o'r newydd

Hefyd yn y Tramshed mae Structures of Feeling: Ffotograffau Geoff Charles, sy'n defnyddio casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru i roi ffotograffau Charles ar gyfer y wasg mewn cyd-destun newydd

Prosiectau unigol gan artistiaid o Ewrop yw'r arddangosfa 'European Chronicles' sydd yn cynnwys gwaith Elin Høyland, 'The Brothers', portread o'r berthynas rhwng dau frawd a fu'n byw gyda'i gilydd ar fferm fechan yn Tessanden yn Norwy

Bu'r ffotograffydd Alicia Bruce yn gweithio gyda thrigolion Blaenafon i greu ei harddangosfa, Encore, dwy gyfres o bortreadau o gerddorion yn y dref

Bydd yr ŵyl, sydd hefyd yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai a phrosiectau ategol, yn gorffen ar 31 Mai. Catrine Val