Hwb o £1.6m i gynllun ynni
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau blaenllaw o'r diwydiant ynni yn siarad yn y gynhadledd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd hwb o £1.6m i gynllun ynni.
Roedd Carwyn Jones yn annerch cynhadledd RenewableUK Cymru yng Nghaerdydd.
Dywedodd y byddai arian yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer generadur sy'n defnyddio llif y llanw i greu ynni oddi ar arfordir y gorllewin.
Bydd yr arian yn helpu'r cwmni ynni adnewyddadwy morol o Gymru, Tidal Energy, i barhau i ddatblygu'r prosiect DeltaStream.
2014
Os bydd y treialon yn yr harbwr yn llwyddo, caiff dyfais DeltaStream ei defnyddio yn Swnt Dewi yn 2014.
Gallai arwain at drydan glân i drigolion ardal Tyddewi yn ystod y cyfnod arddangos o 12 mis, a chyfleoedd am swyddi hirdymor yn yr ardal.
Dywedodd Mr Jones y byddai'r prosiect "yn helpu cynyddu presenoldeb Cymru yn y sector ynni'r llanw.
"Byddaf yn trefnu ac yn cadeirio grŵp cyflawni strategol er mwyn creu dolen gref â rhanddeiliaid fel y gallwn gydweithio a chwalu unrhyw rwystrau a allai ein hatal rhag cyflawni ein gweledigaeth ac fel y gallwn barhau i gyflawni ein huchelgais o ran ynni carbon isel."
'Cyffrous'
Dywedodd Martin Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr Tidal Energy: "Dyma gyfnod cyffrous i ni.
"Mae'r holl gydsyniadau gweithredu angenrheidiol gennym, rydym wedi cwblhau'r gwaith grid ar gyfer y prosiect ac erbyn hyn rydym yn paratoi i gynnal ein profion cyntaf allan yn y môr."
Yn y gynhadledd, polisi ynni Cymru a'r seilwaith sy'n cael sylw sesiwn y bore.
Yn y prynhawn mae araith yr Athro Jacqueline McGlade, Cyfarwyddwr Gweithredol Asiantaeth Amgylcheddol Ewrop.
Ar ddiwedd y diwrnod mae'r newyddiadurwraig Mai Davies yn cadeirio panel trafod.
Yr Aelodau Cynulliad Alun Ffred Jones a William Powel yw dau o'r aelodau ac mae'r strategydd gwleidyddol Gareth Wardell a'r Athro Dylan Jones-Evans o Brifysgol Cymru yn ymuno gyda nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013

- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2012

- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2012