Cwmni clinigol PRA yn creu 100 o swyddi yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Marina Abertawe, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ardal SA1
Bydd cwmni yn Abertawe yn ehangu, gan greu 100 o swyddi newydd.
Cwmni sy'n gwneud ymchwil clinigol yw PRA ac maen nhw wedi disgrifio'r swyddi fydd yn cael eu creu fel rhai "sylweddol" fydd yn "gofyn am sgiliau medrus".
Dywedodd y cwmni mewn datganiad eu bod yn awyddus i recriwtio "graddedigion o ansawdd uchel" o brifysgolion Cymru.
Mae'r cyhoeddiad yn dod yn sgil agor swyddfeydd newydd y cwmni yn ardal SA1 o Abertawe yn ddiweddarach.
'Potensial ar gyfer twf uchel'
Bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Edwina Hart yn bresennol yn ystod yr agoriad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £1.29 tuag at y fenter.
Mae 100 o bobl eisoes wedi sicrhau swyddi yn yr adeilad, felly bydd y 100 swydd newydd yn dod â chyfanswm y nifer fydd yn cael eu cyflogi gan y cwmni yn Abertawe i 200.
Disgwylir y bydd y gwaith yn dechrau dros y misoedd nesaf i ddyblu maint y swyddfa.
Dywedodd y gweinidog: "Roedd sawl lleoliad arall dan ystyriaeth ar gyfer y prosiect ehangu pwysig hwn, felly rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i sicrhau ei fod yn dod i Gymru.
"Rheswm arall dros groesawu'r buddsoddiad hwn yw bod PRA yn gwmni strategol pwysig yn y sector gwyddorau bywyd - un o'n sectorau economaidd â photensial ar gyfer twf uchel sy'n cael blaenoriaeth."
Yng Ngogledd Carolina yn yr Unol Daleithiau mae pencadlys y cwmni, ac maen nhw'n cyflogi dros 5,000 o weithwyr ar draws y byd.
Yn ôl Steve Powell, un o is-lywyddion y cwmni: "Rydyn ni'n falch iawn o gael agor ein hestyniad yn Abertawe.
"Fel un o'r prif sefydliadau ymchwil clinigol, rydyn ni wedi ymrwymo i dyfu ein tîm yn Abertawe ac i drawsnewid profion clinigol ar bob cam o'r broses o ddatblygu cyffuriau newydd; mae'r adeilad a'r swyddi newydd yn dangos ymrwymiad PRA i gynnig gwasanaeth mwy dynamig i'n cwsmeriaid, yn lleol ac yn rhyngwladol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013