Gwariant cyhoeddus: Effaith ar yr iaith
- Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i wario fwy o arian ar y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i edrych ar effaith gwariant ei chyllideb (tua £15 biliwn yn flynyddol) ar yr iaith Gymraeg.
Dywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod y datblygiad yn dod yn sgil cyfarfod wythnos diwethaf gyda'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Leighton Andrews, a'i swyddogion.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad blynyddol o effaith y gyllideb ariannol ar y maes cydraddoldeb.
Maent wedi cadarnhau ei bod yn ystyried gwneud yr un peth ar gyfer y Gymraeg yn y gyllideb ariannol nesaf:
"Mae swyddogion Is-adran y Gymraeg wrthi'n ystyried y dull o gynnal asesiad effaith iaith ar gyllideb y llywodraeth.
"Mae proses o asesu effaith cyllideb Llywodraeth Cymru eisoes yn digwydd yn y maes cydraddoldeb yn flynyddol, ac felly mae'r swyddogion yn ystyried dichonolrwydd defnyddio'r un prosesau er mwyn cynnal asesiad effaith ar y Gymraeg ar gyfer y gyllideb nesaf."
Ymateb ymgyrchwyr iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhoi 'croeso gofalus' i'r newyddion.
Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy y gymdeithas:
"Mae'n newyddion calonogol ac yn dangos bod ein hymgyrchu yn dechrau dwyn ffrwyth.
"Fodd bynnag, bydd dal angen i ni graffu ar y manylion a sicrhau bod patrwm gwariant y llywodraeth yn newid.
"Er enghraifft, rydyn ni'n poeni na fydd yr adolygiad, o bosib, yn ddigon annibynnol."
"Rydyn ni wedi gweld nifer o enghreifftiau lle mae patrwm gwariant y Llywodraeth yn tanseilio'r Gymraeg yn gyfan gwbl.
"Felly mae wir angen newid yn dilyn yr adolygiad hwn."
Yn ôl y gymdeithas, dangosodd Cais Rhyddid Gwybodaeth ym mis Ebrill bod llai na £4,000 yn cael ei rhoi i un ochr ar gyfer gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer addysg yn y gweithle a'r gymuned.
Roedd cyllideb o bron i £17m wedi ei neilltuo ar gyfer y maes yma.
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd bod angen cynyddu'r ddarpariaeth a bod adolygiad wedi cychwyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2012