Swyddi newydd yn Admiral
- Cyhoeddwyd

Bydd Admiral nawr yn cyflogi 5,145 o staff ar draws de Cymru
Mae 236 o swyddi newydd yn mynd i gael eu creu yng Nghymru gyda'r cwmni Admiral.
Mae hyn yn golygu bod dros 5,000 o bobl Cymru erbyn hyn yn gweithio i'r cwmni yswiriant am y tro cyntaf erioed.
Mae 108 o swyddi wedi eu creu yn Abertawe, 88 yng Nghaerdydd a 40 yng Nghasnewydd a byddan nhw'n cael eu llenwi yn ystod y tri mis nesaf.
Dyw'r cwmni ddim wedi cynnig cynifer a hyn o swyddi ers rhyw 18 mis.
Ym mis Mawrth fe gyhoeddodd Admiral sydd hefyd yn berchen brandiau megis Confused.com, Elephant.co.uk a Diamond bod cynnydd o 15% wedi bod yn eu helw.
Wrth gyhoeddi'r swyddi newydd dywedodd pennaeth gwasanaethau pobl Admiral, Ceri Assiratti:
"Mae'n wych i weld y busnes yn parhau i ddatblygu.
"Rydyn ni yn recriwtio yn benodol ar gyfer ein swyddfeydd yn ne Cymru ac yn edrych am bobl gyda'r sgiliau gorau i'n helpu ni i roi gwasanaeth gwych i'n cwsmeriaid.
"Rydyn ni wedi cael nifer o flynyddoedd llwyddiannus yma yng Nghymru ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni yn parhau i dyfu fel cwmni."
Admiral yw'r ail gwmni yswiriant car mwyaf ym Mhrydain a'r flwyddyn nesaf mae disgwyl iddynt symud i bencadlys newydd yng nghanol dinas Caerdydd.
Mae ganddyn nhw hefyd gynlluniau i symud i swyddfeydd newydd yng Nghasnewydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd30 Awst 2012

- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2011