Cynnig mesur meinciau cefn ar Ewrop
- Cyhoeddwyd

Mae rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol eisiau i refferendwm ar Ewrop gael ei gynnal cyn 2015
Mae'r AS Ceidwadol James Wharton wedi cadarnhau y bydd yn cynnig mesur refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd wedi i'w enw ddod i frig y rhestr o ASau all gyflwyno mesurau preifat.
Nos Fercher fe gefnogodd dros 100 o ASau Ceidwadol welliant yn beirniadu methiant y llywodraeth i gynnwys mesur yn Araith y Frenhines.
Fe drechwyd y gwelliant gyda 277 o bleidleisiau yn ei erbyn a 131 yn ei gefnogi.
Gwadu
Roedd cefnogwyr y gwelliant yn cynnwys 116 o ASau Ceidwadol, sy'n cyfateb i hanner aelodau meinciau cefn y blaid.
Gwadodd nifer o Geidwadwyr fod y canlyniad yn wrthryfel gan ddweud eu bod yn unedig ar y mater.
Ond honnodd Llafur ei bod yn ergyd drom i awdurdod David Cameron.
Roedd nifer o ASau Ceidwadol wedi eu cythruddo gan y ffaith nad oedd sôn yn Araith y Frenhines am addewid y Prif Weinidog o refferendwm cyn diwedd 2017 i benderfynu a ddylai'r DU barhau'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
Ar y brig
Cafodd mesur drafft ei gyhoeddi gan y Ceidwadwyr i geisio tawelu'r dyfroedd.
Ond all y llywodraeth ddim cyflwyno'r mesur gan nad yw'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei gefnogi.
Fore Iau cynhaliwyd balot i benderfynu pa ASau gaiff gyflwyno mesurau preifat.
Enw Mr Wharton oedd ar frig y rhestr ac mae ei benderfyniad i ddewis mesur ar refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd yn golygu y bydd y mater yn cael ei drafod yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod yr amser a ganiateir ar gyfer mesurau meincwyr cefn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2013

- Cyhoeddwyd14 Mai 2013

- Cyhoeddwyd13 Mai 2013

- Cyhoeddwyd15 Mai 2013