Ymchwiliad i wariant ar Ganolfan Cywain
- Cyhoeddwyd

Ymchwiliad i'w gynnal i'r modd y cafodd arian cyhoeddus ei ddefnyddio yng Nghanolfan Cywain ger y Bala
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cadarnhau y bydd yn cynnal ymchwiliad manwl i'r modd y cafodd arian cyhoeddus ei wario ar Ganolfan Cywain ger Y Bala.
Cafodd y ganolfan ei hagor ym mis Mai 2008 a'i nod oedd dathlu bywyd gwledig.
Dair blynedd yn ddiweddarach fe gaeodd y drysau oherwydd trafferthion ariannol.
Antur Penllyn oedd yn rhedeg y ganolfan ar y pryd ond methiant fu'r ymdrechion i ddod o hyd i fudiadau newydd i gymryd yr awenau.
£2m
Mae prydles y ganolfan dreftadaeth a'r asedau bellach wedi eu trosglwyddo i Stad Rhiwlas, perchnogion y tir.
Derbyniodd y ganolfan dros £2 miliwn o arian cyhoeddus.
Yn gynharach eleni galwodd Darren Millar, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad am ymchwiliad.
Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi dweud y bydd yn cynnal ymchwiliad i benderfyniadau ariannol swyddogion Antur Penllyn.
Daeth gwaith Antur Penllyn i ben yn Ionawr 2013.
Mae disgwyl iddo gyhoeddi ei adroddiad yn ddiweddarach yn 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012
