Damwain ddifrifol yn Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaethau brys yn dweud eu bod nhw'n delio gyda digwyddiad difrifol rhwng Brynbuga a Caerleon.
Roedd pum beic modur ac un car yn rhan o wrthdrawiad a ddigwyddodd ger Gwesty Cwrt Bleddyn, Llangybi.
Mae pedwar person wedi cael eu cymryd i'r ysbyty gydag anafiadau - tri mewn ambiwlansys ac un mewn hofrennydd.
Cafodd Gwasanaeth Tân De Cymru eu galw am 7:25pm.
Roedd y ffordd wedi cau am sawl awr tra roedd swyddogion yr heddlu yn gwneud ymchwiliadau.
Mae'r Heddlu yn apelio am wybodaeth ac yn gofyn i lygaid dystion i gysylltu gyda nhw.