Cyngor o blaid gorfodi menyw i symud
- Cyhoeddwyd

Dyw Enid Jones ddim eisiau symud o Stryd Glyndŵr
Mae Cyngor Ceredigion wedi pleidleisio o blaid defnyddio gorchymyn prynu gorfodol i orfodi menyw o Aberystwyth i symud o'i thŷ.
Mae Tesco a Marks and Spencer am agor siopau ger Stryd Glyndŵr ond er mwyn gwneud hynny byddai rhaid i Enid Jones symud o'i thŷ teras.
Dyw hi ddim eisiau gadael er bod perchnogion y rhan fwyaf o dai y stryd yn fodlon gwerthu.
Penderfynodd y datblygwyr geisio defnyddio gorchymyn prynu gorfodol a phleidleisiodd 25 cynghorydd o blaid, tri yn erbyn ac fe wnaeth pump ymatal.
Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
280 o swyddi
Mae Tesco a Marks and Spencer wedi arwyddo cytundeb gyda'r awdurdodau a datblygwyr ac yn gobeithio y bydd eu siopau'n agor erbyn Rhagfyr 2016.
Maen nhw wedi dweud y byddai'r datblygiad yn creu 280 o swyddi ac mae'r cyngor o'r farn y byddai masnach yn y dref yn derbyn hwb o hyd at £3.6m y flwyddyn.
Roedd Gareth Lloyd sy'n gyfrifol am ddatblygiad economaidd ar gabinet Cyngor Ceredigion wedi dweud: "Rhaid i ni bwyso a mesur y pryderon yn erbyn enillion y datblygiad, nid yn unig yn Aberystwyth, ond ledled y sir.
"Os byddwn yn llwyddiannus yn y cyfarfod byddwn yn dal i drafod â'r unigolyn (Mrs Jones) ..."
Dywedodd Mrs Jones yn gynharach ym mis Mai ei bod hi'n benderfynol o beidio â symud.
'Egwyddor'
"Mae'n fater o egwyddor," meddai. "Dydw i ddim eisiau gadael fy nhŷ.
"Dwi'n cydnabod y ffaith y bydd y cyngor yn defnyddio gorchymyn prynu gorfodol ond fe wna' i eu hymladd nhw'r holl ffordd."
Yn ôl Mrs Jones, mae datblygwyr wedi cynnig prynu ei thŷ neu adeiladu un newydd iddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2012

- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011