Cyhuddo dyn wedi lladrad
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y lladrad ar stryd Cowbridge Road East yn Nhreganna
Mae dyn wedi cael ei arestio a'i gyhuddo o ddwyn gemwaith wedi lladrad mewn siop yn Nhreganna, Caerdydd.
Mae'r dyn sydd yn 47 oed yn hanu o ardal Tre-Biwt yn y brifddinas ac mae wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Bydd yn ymddangos o flaen llys ynadon Caerdydd fis nesaf.
Cafodd gemwaith ei gymryd o siop J G and M Jewellers ar stryd Cowbridge Road East ddydd Gwener y trydydd o Fai.
Yn ystod y lladrad cafodd perchennog y siop anafiadau i'w fraich.
Mae tri pherson arall sef dyn 42 oed o Dreganna, menyw 34 oed o Bont-Y-Clun a dyn arall 35 oed o Dre-Biwt hefyd wedi eu harestio yn sgil y lladrad.
Maent wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 02920527248 neu Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555 111.