Gêm gyfartal i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Daeth y glaw dros Gaerlŷr i gipio unrhyw obaith am fuddugoliaeth oddi ar Forgannwg yn eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd ddydd Gwener.
Gyda'r tîm cartref yn dechrau'r diwrnod 167 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 442. Roedden nhw wedi gorfod batio eilwaith ar ôl colli eu holl wicedi yn y batiad cyntaf am 142.
Oherwydd y glaw doedd dim chwarae o gwbl tan 3:30pm ddydd Gwener, oedd yn golygu y byddai'n rhaid i Forgannwg gipio wicedi sydyn pan fyddai'r chwarae yn dechrau.
Ond rhwng ysbeidiau o law, dim ond 13 o belawdau oedd yn bosibl, ac er i Michael Hogan gipio wiced Greg Smith yn y cyfnod yna, fe ddaeth yn amlwg na fyddai canlyniad boddhaol i'r naill dîm na'r llall.
Gêm gyfartal felly, ond fe fydd yn gysur i Forgannwg eu bod wedi cipio 10 pwynt bonws yn erbyn 5 y tîm cartref.
Pencampwriaeth y Siroedd - Sir Gaerlŷr v Morgannwg; Caerlŷr:-
Sgôr terfynol:-
Morgannwg
(Batiad cyntaf): 442 am 9 wiced - Allenby 138 h.f.a., Wagg 58, North 68, Goodwin 57.
Sir Gaerlŷr
(Batiad cyntaf): 142
(Ail fatiad): 182 am 2 wiced
Gêm gyfartal - 5 pwynt bonws i Sir Gaerlŷr: 10 pwynt bonws i Forgannwg.