Y frech goch: Sesiynau galw heibio ola'
- Cyhoeddwyd

Iechyd Cyhoeddus Cymru: 33,000 o blant na phobl ifanc ddim wedi cael y brechiad MMR.
Mae'r sesiynau galw heibio ola' yn cael eu cynnal wrth i swyddogion awgrymu bod achosion newydd y frech goch yn arafu.
Ym Mhowys mae'r sesiynau yn adran cleifion allanol Ysbyty Aberhonddu ac Ysbyty'r Drenewydd tan 2.30pm.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio nad yw 33,000 o blant na phobl ifanc wedi cael y brechiad MMR.
Dywedodd Dr Meirion Evans: "Mae gostyngiad cyflym yn nifer yr achosion yn adlewyrchu'r ffaith fod cymaint wedi cael eu brechu.
'Pryderon'
"Ond mae pryderon y gall y clefyd amlygu ei hun mewn ardaloedd eraill."
Roedd nifer o achosion wedi bod yng Ngwent, meddai, ond awgrym bod yr awdurdodau ar fin eu rheoli.
"Gan fod hanner tymor yr wythnos nesa' bydd llai o gyswllt rhwng plant."
Hyd yn hyn mae 60,000 o frechiadau wedi cael eu rhoi oherwydd y gyfres o achosion yn ardal Abertawe a Phowys.
Bydd modd cael brechiad wrth drefnu â meddyg teulu.
1,136
Y cyfanswm o achosion erbyn hyn yw 1,136, cynnydd o 10 o fewn ychydig o ddyddiau.
Dim ond 19 o achosion oedd yng Nghymru yn 2011.
Daeth sesiynau brechu i ben yn holl ysgolion uwchradd Cymru - a rhai ysgolion cynradd - ddydd Gwener.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 8,618 wedi cael eu brechu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2013

- Cyhoeddwyd21 Mai 2013

- Cyhoeddwyd16 Mai 2013
