Woolwich: Dyn wedi ei arestio o'r blaen
- Cyhoeddwyd

Roedd llawer o dystion i’r ymosodiad yn Woolwich, Llundain
Mae'r Swyddfa Dramor a Llywodraeth Kenya wedi cadarnhau bod dyn gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio milwr wedi cael ei arestio o'r blaen yn Kenya.
Yn wreiddiol, roedd Kenya wedi gwadu bod Michael Adebolajo wedi bod yn y wlad cyn i luniau ddod i'r golwg ohono mewn llys dair blynedd yn ôl.
Y gred oedd ei fod mewn ymgyrch yn gysylltiedig ag Al-Qaeda a chafodd ei anfon o'r wlad.
Dyn 22 oed
Yn y cyfamser, mae'r heddlu wedi arestio dyn 22 oed yn Llundain ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.
Nos Sadwrn yn Llundain cafodd tri arall eu harestio oherwydd yr ymchwiliad i lofruddiaeth milwr.
Dywedodd Heddlu Llundain fod y dynion 21, 24 a 28 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.
Cafodd gwn Taser ei ddefnyddio wrth arestio dau.
Cafodd Lee Rigby, 25 oed o Fanceinion, ei ladd ger Barics Woolwich yn Llundain ddydd Mercher.
Sefydlog
Mae'r ddau gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio yn dal i fod mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Saethodd yr heddlu Mr Adebolajo, 28 oed, a Michael Adebowale, 22 oed.
Mae dyn 29 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Ac mae dwy fenyw 29 a 31 oed, gafodd eu harestio ar amheuaeth o gynlwynio i lofruddio, wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.
162 o alwadau
Ddydd Sadwrn honnodd elusen fod llawer mwy o ddigwyddiadau yn erbyn Moslemiaid ers i filwr gael ei lofruddio.
Dywedodd elusen Faith Matters, sy'n rhedeg llinell gymorth, eu bod wedi derbyn 162 o alwadau ers yr ymosodiad ddydd Mercher.

Bu teulu Lee Rigby yn rhoi teyrngedau iddo mewn cynhadledd newyddion emosiynol
Cyn hynny, meddai, roedden nhw'n derbyn chwe galwad y dydd.
Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen Fiyaz Mughal fod y digwyddiadau'n cynnwys ymosodiadau ar fosgiau, graffiti, a sarhau.
'Pryder'
"Yr hyn sy'n achosi pryder yw eu bod yn dod o bob rhan o'r wlad.
"Mae rhai ohonyn nhw'n ymosodol, yn ymosodol iawn ...
"Ac mae 'na lawer yn digwydd ar-lein sy'n awgrymu bod rhywfaint o gydlynu ymosodiadau yn erbyn sefydliadau neu leoedd lle mae Moslemiaid yn ymgasglu."
Yn y cyfamser, mae nifer o bobl wedi eu cyhuddo wedi i sylwadau gael eu gwneud ar wefannau cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r rhain yn cynnwys dyn 22 oed o Lincoln, dyn 28 oed o Lundain, menyw 23 oed o Southsea, a dyn 19 oed o Woking.
Cafodd tri dyn, dau o Gateshead ac un o Stockton eu harestio ar amheuaeth o adael negeseuon hiliol ar wefannnau cyn protest yr English Defence League yn Newcastle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2013

- Cyhoeddwyd24 Mai 2013

- Cyhoeddwyd23 Mai 2013

- Cyhoeddwyd22 Mai 2013
