Gweithgor yn cynnig syniadau i'r Urdd
Cynnig mynediad am ddim i bobl sydd yn cystadlu, cryfhau'r ddarpariaeth sydd ar gael i ddysgwyr a chreu pabell dechnoleg. Dyna rai o'r syniadau sydd wedi eu crybwyll gan weithgor sydd wedi bod yn adolygu eisteddfod yr Urdd.
Cafodd y penderfyniad ei wneud i sefydlu'r gweithgor y llynedd pan oedd yr wŷl yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 ac maent wedi bod wrthi yn clywed barn amryw o bobl.
Ddydd Llun hefyd ar y maes mae cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal sydd yn gyfle i bobl ddweud eu dweud am yr eisteddfod.
Y barnwr Nic Parry sydd wedi bod yn cadeirio'r gweithgor ac mi fu Kate Crockett yn ei holi ar y Post Cyntaf i gael gwybod mwy.