Lluniau: Eisteddfod yr Urdd ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd

Wedi'r glaw ddydd Llun, daeth yr haul allan ar faes Eisteddfod yr Urdd 2013 yng Nghilwendeg ar fore Mawrth.

Dywedodd llywydd dydd Mawrth, yr actores Llinor ap Gwynedd, fod yr Urdd wedi bod yn rhan bwysig o'i magwraeth a'i bod yn dal i fwynhau gwylio a gwrando. Er iddi gystadlu llawer mewn partion a chorau, unwaith yr aeth ar y llwyfan ar ei phen ei hun "yn y gystadleuaeth dawnsio disgo pan o'n i'n 12 oed. Fe wnes i ddysgu fy hunan - efallai fod hynny'n esbonio pam na ches i wobr!"

Dan lygad barcud heddwas, cafodd Cian o Ynys Môn dro ar un o feiciau modur yr heddlu.

Cafodd gorsaf gymunedol yn gwasanaethu siroedd Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro ei lansio yng nghwmni un o gyn ddarlledwyr BBC Radio Cymru, Sulwyn Thomas.

Mae Sali Mali yn hen ffefryn ar y maes.

Roedd mwy o ddefnydd i'r meinciau picnic ar faes yr eisteddfod ddydd Mawrth

Yn wahanol i ddiwrnod cynta'r ŵyl, roedd cynulleidfa o flaen y llwyfan perfformio heddiw

Gyda'r maes yn llawer sychach ddydd Mawrth, dywedodd Cyfarwyddwr yr Urdd Aled Siôn nad oedden nhw'n rhagweld unrhyw broblemau pellach yn y meysydd parcio wedi i un cae beidio cael ei ddefnyddio wedi mwd ddydd Llun.