Swyddi yn y fantol yn Ynys Mon
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr sydd yn dosbarthu deunydd ysgrifennu yn Ynys Môn wedi cael gwybod bod eu swyddi yn y fantol oni bai bod prynwr yn dod i'r fei.
Cafodd y 40 aelod o staff sydd yn gweithio i Columbia Marketing ym Mhorthaethwy eu galw i gyfarfod brys lle y cafon nhw wybod fod y cwmni yn bwriadu mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Ym mis Hydref y llynedd y daeth Columbia Marketing yn gyfrifol am y busnes.
S Webb and Son oedd y perchennog cyn hynny gyda 160 o bobl yn gweithio yno ar ei hanterth. Ond cafodd y gweithlu ei lleihau y llynedd wrth i'r galw am nwyddau ostwng.
Roedd teulu S Webb and Son wedi bod yn rhedeg y busnes ers 1928 ar draws gogledd Cymru ac ymhellach.
Dywedodd un gweithiwr oedd ddim eisiau cael ei enwi: "Dyw e ddim yn sioc. Rydyn ni wedi bod yn disgwyl rhywbeth fel hyn oherwydd bod llai o archebion wedi bod yn dod i mewn. Fyddwn ni ddim yn gwybod y sefyllfa am ychydig ddiwrnodau ond dyw pethau ddim yn edrych yn dda."
Doedd neb o rheolwyr y cwmni ar gael i rhoi sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2013