Lluniau: Eisteddfod yr Urdd 2013 ddydd Iau
- Cyhoeddwyd

Mae Holly o Faenclochog a Lois o Gaerdydd yn ffrindiau ers pan oedden nhw'n dair oed, ond byddan nhw'n cystadlu yn erbyn ei gilydd ar y cyflwyniad dramatig nos Iau

Siaradodd Llywydd y Dydd, Connie Fisher, fore Iau am ei dyled i'r Urdd ac i'r hyfforddwraig Marilyn Lewis am ei hannog i berfformio a hefyd i siarad Cymraeg gan nad yw ei rhieni'n siarad gair o'r iaith. Dywedodd hefyd ei bod yn gobeithio bod ei thaith hi yn ysbrydoliaeth i gystadleuwyr ifanc yr eisteddfod.

Daeth Geraint Walters a'i ferch Cadi gyda'r teulu o Bontiets am y dydd i fwynhau'r eisteddfod

Dod i gefnogi aelodau'r teulu sy'n cystadlu ddydd Iau wnaeth Mrs Christine Evans a'i wyres Emily o Ystalyfera

Er bod llawer yn dal i wisgo sgidiau glaw ddydd Iau, roedd yr haul yn gwenu ar y maes

Meryl Katrina Jones o Dalog yn Sir Gaerfyrddin yw enillydd Gwobr John a Ceridwen Hughes i wirfoddolwyr sydd yn cyfrannu’n sylweddol i waith ieuenctid yng Nghymru. Bydd yn derbyn y tlws ar lwyfan yr eisteddfod nos Iau.

Cyflwynodd Efa Gruffydd Jones a Connie Fisher eu bagiau llaw i Gill Griffiths o Ferched y Wawr fore Iau fel rhan o ymgyrch y mudiad i gasglu bagiau. Bydd yn dod i ben gydag ocsiwn i godi arian yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013.