Cefnogwyr Caerdydd i gael dewis lliw trowsusau
- Cyhoeddwyd

Capten Caerdydd Mark Hudson sy'n modelu'r pedwar dewis o liwiau ar gyfer trowsusau'r tymor newydd
Bydd rhai o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn cael pleidleisio pa liw fydd trowsusau newydd y tîm yn dilyn anfodlonrwydd â'r dewis gwreiddiol.
Pan ddatgelodd y clwb liwiau'r crysau a throwsusau newydd ar eu gwefan ddydd Mercher, roedd y crysau newydd yn dal yn goch, ond roedd y trowsusau hefyd yn goch, ond yn goch tywyllach.
Dangosodd y cefnogwyr eu hanfodlonrwydd, a nawr bydd deiliaid tocynnau tymor yn pleidleisio ar bedwar dewis o liwiau i'r trowsusau.
Dywedodd datganiad gan y clwb: "Cafodd y penderfyniad ei wneud fel modd o wneud y clwb yn wahanol yn yr Uwchgynghrair, tra'n parhau gyda'r thema o'n tymor llwyddiannus wrth ennill y Bencampwriaeth yn 2012/13.
"Roedd yr ymateb a gafwyd ar wefannau cymdeithasol yn dangos bod nifer fawr o gefnogwyr yn anhpaus gyda'r dewis o liw i'r trowsusau. Am hynny rydym yn ymddiheuro."
Mae'r cwynion yn dilyn anghydfod y llynedd pan benderfynodd perchennog y clwb, Vincent Tan o Malaysia, ail-frandio'r clwb gan newid lliw crysau'r clwb o las i goch.

Bydd clwb Caerdydd yn gwisgo'r dillad newydd yn eu tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair
Wrth ymateb i'r anfodlonrwydd diweddaraf, dywedodd y clwb y byddau deiliaid tocynnau tymor yn cael cyfle i leisio'u barn.
Ychwanegodd y clwb: "Hoffwn ymateb drwy gynnig pleidlais i holl ddeiliaid tocynnau tymor sydd ar fas-data e-bost y clwb ar bedwar dewis am liw trowsusau y tymor nesaf.
"Er na fydd hyn yn golygu y bydd pawb sydd â thocyn tymor yn cael pleidlais, mae maint yr arolwg, sy'n mynd i gyrraedd dros 12,000 o gefnogwyr y clwb, yn rhoi arwydd clir i ni o farn y mwyafrif."
Bydd gan y cefnogwyr dan sylw tan 2:00pm ddydd Gwener i gofrestru eu pleidlais drwy e-bost i'r clwb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2013

- Cyhoeddwyd5 Mai 2013
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2013