Lluniau: Eisteddfod yr Urdd ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd
Alys a Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pabell coleg Sir Benfro yn cynnig cyfle i bobl ifanc fel Alys a Rhys ymarfer eu doniau artistig

Carwyn Jones y Prif Weinidog
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones ar faes Eisteddfod yr Urdd 2013 i ddechrau trafodaeth genedlaethol y Llywodraeth am ddyfodol y Gymraeg. Bwriad Iaith Fyw: Y Gynhadledd Fawr yw gwahodd pobl Cymru i drafod sut mae hyrwyddo a chefnogi'r defnydd o'r iaith yn y dyfodol.

Jacob, Iestyn ac Owain
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jacob Ellis, Iestyn Hughes ac Owain Talfryn ar y maes ddydd Gwener i sôn am fforwm ieuenctid newydd yr Urdd, Fforwm Syr IfanC, ac i gwrdd â'r Prif Weinidog.

Fflachdorf Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith ddawns brotest i hyrwyddo eu hymgyrch i sefydlu darparwr amlgyfrwng Cymraeg newydd. Dywedodd y mudiad bod symudiadau'r ddawns yn cyfleu ymdrech i "ysgwyd y diwylliant Cymraeg yn rhydd o orthrwm y BBC".

Plant yn chwarae
Disgrifiad o’r llun,

Ar y diwrnod roedd Carwyn Jones yn cychwyn ei drafodaeth genedlaethol am ddyfodol y Gymraeg roedd dau ymwelydd ifanc yn helpu eu rhieni i ddatgan eu hawydd i "fyw yn Gymraeg".

Tair merch gyda balwns
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sara, Erin a Lliwen o Rydymain a'r Brithdir wedi cael hwyl o amgylch y maes a chael paentio eu hwynebau mewn patrymau Celtaidd.

Golygfa o'r maes
Disgrifiad o’r llun,

Mae digwyddiadau'r llwyfan yn cael eu darlledu ar sgriniau mawr ar faes yr eisteddfod.