Merch ar goll: Mwy o amser i holi dyn
- Cyhoeddwyd

Mae Georgia Williams wedi bod ar goll ers nos Sul
Mae'r heddlu wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dyn ar amheuaeth o lofruddio yn sgil diflaniad merch 17 oed.
Aeth Georgia Williams, 17 oed o Wellington yn Sir Amwythig, ar goll nos Sul.
Yn Glasgow cafodd dyn 22 oed o Wellington ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ddydd Mawrth.
Mae'r heddlu'n ei holi yn Telford.
Fan arian
Yn y cyfamser, mae'r heddlu wedi bod yn archwilio tir ym Mwlch Nant-y-garth rhwng Wrecsam a Rhuthun.
Roedden nhw wedi derbyn nifer o alwadau am fan arian gafodd ei gweld yn y gogledd.
Mae'r heddlu wedi gofyn i fusnesau a siopau yn ardal Wrecsam a Glannau Dyfrdwy i edrych ar eu ffilm teledu cylch cyfyng.
Roedd apêl ar raglen Crimewatch y BBC nos Iau.
Toyota Hiace 300 GS arian yw'r fan gyda'r rhif cofrestru CV06 ASV.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Rydym wedi cael nifer o alwadau ar ôl rhaglen Crimewatch, gan gynnwys nifer oedd wedi gweld y fan yn ardal Wrecsam a Chaer ....

Mae heddlu'n awyddus i glywed gan unrhywun welodd y fan arian hon ddydd Llun
"Teithiodd y fan tua 20 milltir mewn cyfnod o bum awr ar nos Lun.
"Rydym yn parhau i fod â diddordeb yn y cyfnod hwnnw ac rydym yn dal i annog busnesau i ddod ymlaen os oes ganddyn nhw unrhyw luniau ohoni."
Y gred yw fod y fan wedi gadael Wellington tua hanner dydd ddydd Llun cyn teithio i Groesoswallt, Y Rhyl, Caer a Kendal.
Fe gyrhaeddodd Glasgow tua hanner dydd ddydd Mawrth.