Achos Bradley Manning i ddechrau
- Cyhoeddwyd

Nid yw Bradley Manning wedi gwadu rhyddhau'r dogfennau
Bydd y milwr Americanaidd Bradley Mannig, a gafodd ei fagu yn Sir Benfro, yn wynebu llys milwrol yn ddiweddarach ar gyhuddiad o ddatgelu dogfennau cyfrinachol i wefan Wikileaks.
Honnir iddo yrru 250,000 o dogfennau dilomyddol a 500,000 o adroddiadau o faes y gad yn Afghanistan ac Irac i Wikileaks yn 2009 a 2010.
Cafodd Preifat Manning ei addysg yn Ysgol Tasker Milward yn Hwlffordd, ac mae ei fam yn dal i fyw yn Sir Benfro.
10 cyhuddiad
Mae e wedi pledio'n euog i 10 o'r 22 cyhuddiad yn ei erbyn, ond nid y rhai mwyaf difrifol o gynorthywo'r gelyn.
Os fydd yn ei gael yn euog o'r cyhuddiadau difrifol yna, mae'r milwr 25 oed yn wynebu uchafswm o 154 mlynedd o garchar.
Nid yw Preifat Manning, a arestiwyd ym Mai 2010 tra'n gwasanaethau yn Irac, wedi gwadu rhyddhau'r dogfennau.
Mewn gwrandawiad cychwynnol ym mis Chwefror, dywedodd ei fod wedi datgelu'r dogfennau er mwyn tanio dadl gyhoeddus am rôl lluoedd America a pholisi tramor y wlad.
Ond mae erlynwyr yn dadleu fod rhyddhau'r dogfennau wedi niweidio diogelwch cenedlaethol a pheryglu bywydau Americanwyr.
Cwtogi
Mae disgwyl i ddwsinau o bobl roi tystiolaeth yn yr achos.
Beth bynnag fydd ei ddedfryd ar ddiwedd yr achos, fe fydd y ddedfryd yn cael ei chwtogi o 112 o ddiwrnodau wedi i farnwr ddweud ei fod wedi derbyn triniaeth rhy llym yn ystod ei gaethiwed o naw mis wedi ei arestio yn 2010.
Mae cyfreithiwr Preifat Manning David Coombs wedi diolch i'w gefnogwyr oedd wedi ymgynnull y tu allan i safle milwrol Fort Meade cyn y llys milwrol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd19 Awst 2012
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012

- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2012