Carchar am droseddau rhyw ar blant
- Cyhoeddwyd

Llys y Goron Caernarfon
Mae dyn 18 oed wedi cael ei garcharu am saith mlynedd am gyfres o ymosodiadau rhyw ar blant, gan gynnwys treisio un pan oedd yn 12 oed.
Roedd Adam Thomas Williams, yn wreiddiol o'r Drenewydd, Powys, wedi ei gael yn euog o bedwar cyhuddiad o dreisio ac o geisio treisio. Roedd hefyd wedi cyfaddef i weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.
Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon, dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC y byddai wedi cael dedfryd o garchar "am gyfnod hir iawn" pe bai'n oedolyn ar yr adeg y cyflawnodd y troseddau.
Pan fydd yn cael ei rhyddhau o garchar fe fydd rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw.
Dywedodd y Barnwr Hughes bod y dioddefwyr wedi bod ofn ei ymddygiad "bygythiol a threisgar".
Roedd ganddo fesur deallusrwydd IQ yn is na'r cyfartaledd, ac yn diodde' o gyflwr ADHD - anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd.
"Roeddech chi'n benderfynol o gyflawni'r gweithredoedd yma er eich bod yn gwybod nad oedd hawl gennych i osod eich amodau rhywiol eich hun ar unrhyw un," ychwanegodd y barnwr.