Prif Gwnstabl Heddlu Gwent yn ymddeol
- Cyhoeddwyd
Mae prif gwnstabl Heddlu Gwent yn rhoi'r gorau i'w gwaith.
Dechreuodd Carmel Napier yn y swydd yn 2011 a bydd unigolyn yn cael ei ddewis wythnos nesaf i wneud y gwaith dros dro tan y bydd penodiad parhaol wedi ei wneud.
Yn ôl Comisiynydd yr heddlu ar gyfer Gwent, Ian Johnston mi wnaeth hi'r penderfyniad i ymddeol ar ôl treulio 30 mlynedd yn gwasanaethu o fewn yr heddlu yn Lloegr a Chymru.
Gyda heddlu Hertfordshire y cychwynnodd Carmel Napier ei gyrfa.
Wedi 17 mlynedd yno fe symudodd i Ogledd Efrog gan ddod yn dditectif uwch-arolygydd a phennaeth CID.
Symudodd i heddlu Essex fel cynorthwydd i'r prif gwnstabl gyda chyfrifoldeb am blismona tiriogaethol.
Daeth i fod yn un o weithwyr heddlu Gwent yn 2008 fel dirprwy brif gwnstabl cyn cymryd yr awenau dair blynedd yn ddiweddarach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012