Lansio cynllun profiad gwaith estynedig
- Cyhoeddwyd

Mae Islwyn wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl ifanc sy'n ddiwaith
Bydd Coleg Gwent yng Nghross Keys yn lansio cynllun newydd ddydd Gwener sy'n ceisio rhoi profiad gwaith estynedig i bobl ifanc rhwng 18-24 oed.
Y bwriad yw perswadio cwmnïau lleol, gan gynnwys rhai mawr fel Barclays a General Dynamics, i gytuno i dderbyn y bobl ifanc am gyfnodau o wyth wythnos er mwyn iddyn nhw gael profiad ymarferol yn y gweithle.
Ni fydd y bobl ifanc yn derbyn tal yn ystod y cyfnod, felly ni fyddan nhw'n colli eu lwfans 'chwilio am waith'.
Un o'r cwmnïau cyntaf i fod yn rhan o'r cynllun yw Barclays, ac fe fyddan nhw'n cynnig pedwar lleoliad mewn dwy gangen - Rhisga a'r Coed Duon.
Dywed y banc bod y cynllun yn cyd-fynd yn berffaith gyda'u cynllun eu hunain - LifeSkills - fydd yn creu 50,000 o leoliadau profiad gwaith drwy'r DU.
'Ychwanegu at CV'
Un fu'n gyfrifol am drefnu'r cynllun yng Ngholeg Gwent yw Aelod Seneddol Islwyn Chris Evans. Dywedodd:
"Rwyf wrth fy modd bod Barclays wedi bod y cwmni cyntaf i gytuno i fod yn rhan o Raglen Brofiad Gwaith Islwyn, ac yn gobeithio mai nhw fydd y cyntaf o lawer.
"Yn Islwyn rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl ifanc sydd heb waith, a nod y cynllun yma yw eu cael i mewn i'r gweithle fel bod ganddynt rywbeth ychwanegol i roi ar eu CV."
'Trawsnewid cyfleoedd'
Ychwanegodd Tracey Leeks, rheolwr cangen Barclays yn Rhisga: "Trwy gydweithio gyda busnesau, llywodraeth a darparwyr addysg rydym yn ceisio trawsnewid y cyfleoedd sy'n agored i bobl ifanc.
"Y cam cyntaf yw eu cynorthwyo i fynd drwy'r newid mawr o'r ysgol i'r gweithle, ac mae ein cynllun LifeSkills wedi ei chynllunio yn bwrpasol i wneud hynny.
"Rydym yn credu mai'r dull yma, mewn partneriaeth, yw'r ffordd orau o gyflawni'r newid parhaol sydd angen ar ein cymdeithas."
Bydd Rhaglen Brofiad Gwaith Islwyn yn cael ei lansio'n ffurfiol yn nhŷ bwyta Morels ar gampws Cross Keys o Goleg Gwent am hanner dydd ar ddydd Gwener, Mehefin 7.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2013

- Cyhoeddwyd15 Mai 2013
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2013