Yn euog o dwyll morgais
- Cyhoeddwyd

Roedd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Cafwyd cyfreithiwr, oedd wedi gwadu cyhuddiad o gynllwynio, yn euog o fod yn rhan o dwyll morgais £20m.
Roedd Nicholas Jones, 53 oed ac ar y pryd yn gweithio yn Y Fflint, yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Roedd yr achos wedi para am bum mis a'r rheithgor wedi cymryd 13 awr cyn penderfynu'r dyfarniad.
Dywedodd y barnwr wrth Jones: "Yn amlwg, roeddech chi'n gwybod beth oedd yn digwydd.
'Ymddiriedaeth'
"Nodwedd arall yn eich achos chi oedd i chi dorri'r ymddiriedaeth rhyngoch a'r benthycwyr.
"Bydd rhaid adlewyrchu hyn yn hyd eich dedfryd."
Cafwyd ei gyd-ddiffynnydd, yr ymgynghorydd ariannol Susan Lowry-Hughes, yn euog.
Bydd y ddau'n cael eu dedfrydu ym mis Medi.
Cafodd y ddau fechnïaeth ond bu'n rhaid iddyn nhw ildio pasport.