Tanau gwair yn ne Cymru wedi tywydd sych
- Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o danau gwair wedi'u cynnnau yng Nghymrus ers mis Mawrth
Mae criwiau tân wedi bod yn ceisio diffodd cyfres o danau gwair yn ne Cymru dros nos.
Roedd tân mawr yng Nglyncorrwg, ger Port Talbot, yn dal i losgi fore dydd Sadwrn.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, fe gawson nhw eu galw toc cyn 1:00am.
Roedd 20 o ddiffoddwyr a phedair injan dân yno yn ceisio cael y fflamau dan reolaeth.
Yn ogystal, mae criwiau tân y de wedi bod yn ceisio diffodd tanau yn y Cymer, Porth, Bedlinog, ynghyd â mynyddoedd Rhigos a Maerdy.
Dyw hi ddim yn ymddangos fod unrhyw un wedi'u hanafu yn y digwyddiadau.
Yn y cyfamser, cafodd criwiau eu galw'n ôl i dân eithin yn Y Bermo yng Ngwynedd. Roedd 'na dân ar y safle tair hectar ddydd Gwener hefyd.
Mae 'na dair injan dân ar y safle ers i'r awdurdodau dderbyn galwad am 8:34am ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2013
