Ymchwiliad wedi i ddyn foddi mewn parc yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i ddyn 43 oed farw mewn parc yn Nhreffynnon, Sir y Fflint.
Mae'n ymddangos fod y dyn wedi boddi.
Fe ddigwyddodd ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas ddydd Sadwrn.
Mae'r parc 70 acer (28 hectar) hefyd yn cynnwys amgueddfa, fferm a phyllau dŵr.
Cadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad tua 5:20pm ddydd Sadwrn.
Darganfod corff
Meddai'r Arolygydd Gareth Jones, o Heddlu'r Gogledd:
"Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i ddigwyddiad ble roedd dyn wedi boddi mewn pwll mewn lleoliad gerllaw Ffordd Maes Glas ym Maes Glas am 5:20pm ddydd Sadwrn.
"Roedd yr heddlu a'r gwasanaethau ambiwlans a thân yn bresennol a chafodd corff ei ddarganfod gan dîm tanddwr yr heddlu yn ddiweddarach nos Sadwrn.
"Dyn lleol 43 oed oedd y gŵr a fu farw."
'Cydymdeimlo'n ddwys'
Mae'r atyniad yn berchen i Gyngor Sir y Fflint ac yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas, elusen gofrestredig.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth:
"Mae Ymddiriedolwyr Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a'r staff, ynghyd â chymunedau Maes Glas a Threffynnon, yn cydymdeimlo'n ddwys gyda theulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg anodd iawn yma.
"Er mwyn parchu'r teulu a chydweithio â Heddlu Gogledd Cymru, fydd yr ymddiriedolaeth ddim yn manylu ymhellach ar amgylchiadau'r digwyddiad ar hyn o bryd.
"Fel partneriaid Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael eu hysbysu o'r digwyddiad. Bydd yr ymddiriedolaeth a'r cyngor yn cynnal eu hymchwiliad Iechyd a Diogelwch eu hunain ac maent yn bwriadu cydweithio'n llwyr ag unrhyw ymchwiliad arall i'r digwyddiad."