Triniaeth ysbyty i ddyn ar ôl iddo ddisgyn oddi ar feic dŵr
- Cyhoeddwyd
Cafodd dyn 65 oed ei gludo i'r ysbyty ar ôl disgyn oddi ar feic dŵr ger arfordir gogledd Cymru.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ym Mhenmaenmawr, ger Conwy, am 2:30pm ddydd Sul.
Yn ôl gwylwyr y glannau Caergybi, roedd y dyn yn hanner ymwybodol pan gafodd ei dynnu o'r môr gan griw ar gwch y clwb hwyliau lleol.
Nhw wnaeth dynnu'r beic o'r dŵr hefyd.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, ond does dim manylion ynglŷn â'i gyflwr.