System budd-dal anabl newydd yn dechrau
- Cyhoeddwyd

Mae mwy na 3 miliwn o bobl yn derbyn budd-dal anabl
Mae system newydd i roi budd-daliadau i bobl anabl wedi cael ei gyflwyno ar draws Cymru a Lloegr.
Bydd y lwfans byw i bobl anabl yn dod i ben yn raddol, ac yn ei le mae'r taliad annibyniaeth bersonol (TAP) yn cael ei gyflwyno.
Dywed Llywodraeth Prydain y bydd yr adnoddau yn mynd i'r llefydd priodol gyda'r system newydd ac i'r rhai sydd angen help fwyaf.
Gall y broses newydd gymryd o leia' dwy flynedd cyn bod pawb yn cael eu hailasesu.
Ar hyn o bryd mae ryw 3.3 miliwn o bobl anabl yn derbyn budd-dal.
Ond mae'r llywodraeth yn dweud y gall sefyllfaoedd rhai unigolion wella dros amser a bod angen asesu yn rheolaidd.
Asesu
Bydd tua 75% o unigolion yn gorfod cael cyfweliadau wyneb yn wyneb er mwyn penderfynu os oes angen yr arian arnynt.
Mae ffigyrau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn darogan bydd 450,000 yn llai o bobl yn medru hawlio budd-dal erbyn 2018.
Ond mae'r elusen anabledd Scope, sydd yn feirniadol o'r drefn newydd, yn dweud y bydd y ffigwr yn uwch - yn rhyw 600,000 o bobl.
Beirniadu
Yn ôl yr elusen prif amcan y llywodraeth yw arbed arian: "Mae pobl anabl yn credu mai ffordd i arbed arian yw'r diwygiad yma.
"Dyw e ddim yn helpu bod gweinidogion yn medru proffwydo yn union faint o bobl anabl fydd yn derbyn cefnogaeth a hynny cyn iddyn nhw wneud y prawf hyd yn oed," meddai Richard Hawkes, Prif Weithredwr Scope.
Gwadu mai dyma yw pwrpas cyflwyno taliad annibyniaeth bersonol wna'r llywodraeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd22 Hydref 2011

- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2013