Dim bws ar y Sul i Faes Awyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Ym mis Mawrth fe brynodd Llywodraeth Cymru y maes awyr ar ôl i'r nifer y teithwyr ostwng
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu penderfyniad cwmni bysiau i dorri'n ôl ar wasanaeth dydd Sul i Faes Awyr Caerdydd.
O'r mis nesaf ymlaen fydd dim bws X91 ar ddydd Sul oherwydd adolygiad amserlen.
Wrth gadarnhau'r penderfyniad doedd Bysiau Caerdydd ddim am roi sylwadau pellach am fod y mater yn "sensitif yn fasnachol".
Ehangu
Dywedodd y gwrthbleidiau y dylid ehangu'r gwasanaeth nid ei dorri yn ôl wedi i Lywodraeth Cymru brynu'r maes awyr ym mis Mawrth.
Fe gafodd y maes awyr ei brynu am £52 miliwn wedi i nifer y teithwyr ostwng yn y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Gareth Stevens, rheolwr datblygu busnes y cwmni bysus, y byddai'r gwasanaeth o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
"Rydyn ni wedi darparu gwasanaeth dydd Sul i ac o Faes Awyr Caerdydd ers amser hir.
"Ond yn y pen draw mae llwyddiant y gwasanaeth yn dibynnu ar lwyddiant y maes awyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd24 Mai 2013

- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2013