Carchar am oes am lofruddio ei gariad
- Cyhoeddwyd

Roedd ei gariad yn 37 oed
Mae dyn 28 oed, oedd wedi cyfaddef iddo lofruddio ei gariad, wedi cael carchar am oes.
Fe newidiodd David O'Sullivan o Gaerfyrddin ei ble ar ddechrau'r achos yn Llys y Goron Abertawe fore Llun.
Daethpwyd o hyd i gorff Charmaine MacMuiris, 37 oed, yng nghartref Mr O'Sullivan ar Ddydd Nadolig, 2012.
Dywedodd y barnwr y byddai'n gorfod bod dan glo am o leia' 14 blynedd.
"Roedd yr ymosodiad yn filain ac yn giaidd," meddai.
'Dod i delerau'
Roedd wedi gwadu'r cyhuddiad yn wreiddiol cyn cyfaddef llofruddio'r fam i dri o blant rhwng Rhagfyr 23 a 26.
Dywedodd Ed Beltrami, Prif Erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru: "Dim ond O'Sullivan sy'n gwybod beth achosodd iddo ymosod yn filain ar rywun diniwed.
"Yr hyn sy'n sicr yw bod teulu Charmaine yn ceisio dod i delerau â chanlyniadau ofnadwy yr hyn a wnaeth."
Dywedodd fod ple'r diffynnydd yn golygu nad oedd angen achos troseddol llawn.
"Ond ni fydd dedfryd heddiw yn ddiwedd ar eu colled hwy."
Dathlu
Clywodd y llys ei bod hi wedi penderfynu mynd i'w gartre' i ddathlu'r Nadolig.

Bydd rhaid i O'Sullivan fod dan glo am o leia' 14 blynedd
Dechreuodd ei theulu boeni oherwydd nid oedd yn bresennol ar gyfer pryd teuluol yn hwyrach Ddydd Nadolig.
Yn fuan wedi i'w chorff gael ei ddarganfod dywedodd ei rhieni, John a Christine: "Rydyn ni'n torri'n calonnau fel teulu oherwydd colli'n merch bert.
"Fydd ein bywydau ni fyth yr un peth.
"Ni ddylai unrhyw deulu orfod wynebu'r fath drasiedi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2012