Cynllun marchnad yn cynnig cyfle newydd
Bydd cyfle dros yr haf i unigolion a grwpiau lleol roi cynnig ar gynnal stondin ym marchnad Y Rhyl.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi 10 stondin am ddim i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol y sir.
Maent hwythau ,yn eu tro, yn cynnig y stondinau am hyd at wyth wythnos i fentrau cymdeithasol, elusennau neu fudiadau sy'n helpu'r diwaith ddod o hyd i gyfleoedd newydd.
Adroddiad Rhian Price.