Seilwaith: gwario £1.3bn ychwanegol
- Cyhoeddwyd

Mae Jane Hutt AC yn credu y gallai'r buddsoddiad hybu twf a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
Mae £1.3 biliwn yn ychwanegol wedi ei wario ar dai fforddiadwy, cyfleusterau iechyd ac ysgolion newydd dros y flwyddyn ddiwetha', yn ôl Llywodraeth Cymru.
Dywedodd gweinidogion fod adroddiad blynyddol y Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru yn dangos "canlyniadau go iawn" er gwaetha' toriadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU.
Yn ôl y Gweinidog Cyllid Jane Hutt, byddai'r buddsoddiad yn "hybu twf".
Dywedodd y Ceidwadwyr fod yr adroddiad yn "llawn dyhead" ond bod yna "ddiffyg targedau ystyrlon a mesuradwy".
'Blaenoriaethau'
Mae Ms Hutt wedi dweud: "Er gwaetha'r toriadau i'n cyllidebau cyfalaf, a gyflwynwyd gan lywodraeth y DU, rydym wedi canolbwyntio ar ein blaenoriaethau."
Ychwanegodd fod y buddsoddiad ychwanegol o £1.3 biliwn yn cynnwys arian oedd wedi'i symud o gynilion "drwy reolaeth ofalus".
Dywedodd fod hyn yn golygu ymestyn y Fenter Benthyca Llywodraeth Leol i'r rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif ac i'r gwaith o greu ffordd ddeuol ar hyd yr A465 ym Mlaenau'r Cymoedd.
"Mae'r buddsoddiad ychwanegol oherwydd cynilion cyfalaf, sydd bron yn £462m i gyd, gyda'r potensial yn y tymor byr i greu tua 8,000 o swyddi yn ystod y broses adeiladu," meddai.
"Yn y tymor hirach, bydd hyn yn hybu twf ac yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon."
'Diffyg targedau'
Ond yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar fusnes, Nick Ramsay: "Fel llawer o adroddiadau Llywodraeth Cymru mae hwn yn llawn dyhead ond mae 'na ddiffyg targedau ystyrlon a mesuradwy.
"Mae'n rhyfedd fod gweinidogion Llafur Cymru'n cwyno am doriadau mewn gwariant cyfalaf gan Lywodraeth y DU ond eto eu bod wedi dod o hyd i £52 miliwn i brynu Maes Awyr Caerdydd.
"Mae'n amser i Lywodraeth Cymru ddechrau cydweithio â gweinidogion y DU i fuddsoddi a meithrin yr amodau ar gyfer twf economaidd er mwyn hybu twf swyddi o fewn y sector preifat."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd3 Mai 2013

- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2012
