Diwrnod da i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Cafodd cricedwyr Morgannwg ddiwrnod ardderchog ar ail ddiwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Caint ddydd Iau.
Dechreuodd Morgannwg y diwrnod ar 155 am 4 wiced, a doedd hi ddim yn hir cyn i'r pumed wiced ddisgyn wrth i Jim Allenby gael ei ddal gan y wicedwr Geraint Jones oddi ar fowlio Charlie Shreck.
Ond fe ddaeth y capten Mark Wallace i ymuno â Murray Goodwin ar y sgwâr ac fe lwyddodd y ddau i greu partneriaeth lewyrchus cyn cinio.
Aeth Goodwin ymlaen i sgorio 136 gyda chymorth Cosker, Hogan a Reed wrth i Forgannwg sicrhau cyfanswm sylweddol o 378.
Wth i'r tîm cartref ddechrau eu batiad cyntaf nhw daeth mwy o lwyddiant i Forgannwg wrth i'r bowlwyr greu trafferthion i Gaint.
Cyn cloi'n gynnar oherwydd golau gwael, cipiodd Michael Hogan ddwy wiced ac fe gafodd Graham Wagg a Michael Reed un bob un wrth i Gaint golli pedair wiced yn gyflym.
Oherwydd yr amser sydd wedi ei golli oherwydd y tywydd, fe fydd angen ychydig o frys ar Forgannwg, ond maen nhw mewn sefyllfa gref ar ddechrau trydydd diwrnod yng Nghaergaint.
Pencampwriaeth y Siroedd; Adran 2 - Caint v.Morgannwg; Caergaint:-
Sgôr diweddaraf (diwedd yr ail ddiwrnod)
Morgannwg (batiad cyntaf)= 378
Caint (batiad cyntaf) = 73 am 4 wiced