Cyhuddo dau a chosbi dau ar ôl parti
- Cyhoeddwyd

Trefnwyd y parti gan Annest Lois, 18 oed
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cyhuddo dau ddyn wedi parti yn y Felinheli, Gwynedd, nos Fercher a drefnwyd ar wefan Facebook.
Maen nhw hefyd wedi cosbi dau ddyn arall eisoes ac mae dau arall yn dal yn y ddalfa.
Yn ôl cymdogion, roedd y stryd drwy ganol y pentref yn llawn pobl oedd wedi mynd i'r parti heb wahoddiad.
Mae aelod o'r teulu atebodd y drws yn yr eiddo fore Iau wedi rhybuddio am beryglon trefnu parti ar wefannau cymdeithasol.
Nid oedd am gael ei henwi ond dywedodd: "Mae adroddiadau bod y lle wedi ei ddifetha, ond does dim byd wedi torri.
'Gollwng ar lawr'
"Fe gafodd diodydd eu gollwng ar lawr ond fe ffoniodd fy mab yr heddlu cyn i bethau ddechrau mynd yn flêr."
Dywedodd ei bod yn amlwg fod llawer wedi clywed am y digwyddiad ar wefan Facebook.

Bu'r teulu yn clirio llanast wedi'r parti fore Iau
Cafodd y parti ei drefnu gan Annest Lois, 18 oed, pan oedd ei rhieni i ffwrdd ar wyliau.
Dywedodd hi ddydd Iau: "Ddaeth fy ffrindiau i gyd ddim i mewn. Fyddai dim lle iddyn nhw beth bynnag.
"Rwy'n gwybod pwy oedd yn gyfrifol am hyn, nid un o fy ffrindiau."
'Yn fywiog iawn'
Yn ôl un cymydog, John Williams, fe ddechreuodd pobl gyrraedd tua 7:00pm nos Fercher.
"Es i allan tua 10 ac roedd y stryd yn llawn pobl. Mae'n rhaid bod tua 150 yno i gyd, ac roedden nhw'n fywiog iawn iawn," meddai.
Fe gafodd chwech eu harestio:-
Cafodd dyn 22 oed gosb benodol am drosedd yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus;
Cafodd dyn 18 oed rybudd oherwydd trosedd yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus;
Cafodd dyn 23 oed ei gyhuddo o ddifrod troseddol i gerbyd yr heddlu, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth cyn y bydd gerbron Unadon Caernarfon ar Orffennaf 2;
Cafodd llanc 17 oed ei gyhuddo o drosedd yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus ac fe gafodd ei ryddhau cyn y bydd gerbron Llys Ieuenctid Caernarfon ar Orffennaf 5;
Mae dau berson yn dal yn y ddalfa ar hyn o bryd.