Morgannwg ar drothwy buddugoliaeth
- Cyhoeddwyd

Mae cricedwyr Morgannwg wedi cael bore ardderchog arall ar drydydd diwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Caint ddydd Gwener.
Pan ddaeth batiad cyntaf Morgannwg i ben ar 378 ddydd Iau, fe gafodd y bowlwyr gyfnod da cyn diwedd y diwrnod i adael Caint ar 73 am 4 wiced.
Dal i syrthio oedd y wicedi fore Gwener gyda phum bowliwr yn cyfrannu. Daeth wicedi i Hogan (3), dwy yr un i Wagg, Reed ac Allenby ac un i Dean Cosker a chyn cinio roedd Caint i gyd allan am 135.
Roedd y cyfanswm yna un yn llai nag y cafodd Murray Goodwin ar ben ei hun i Forgannwg.
Gyda Morgannwg dros 150 ar y blaen - 243 i fod yn fanwl - roedd ganddyn nhw'r hawl i ofyn i Gaint fatio eto yn syth ac fe wnaethon nhw hynny.
Dim ond pelawd o'r ail fatiad gafwyd cyn cinio, ond doedd dim sgor na wiced.
Pencampwriaeth y Siroedd; Adran 2 - Caint v.Morgannwg; Caergaint:-
Sgôr diweddaraf (amser cinio'r trydydd diwrnod)
Morgannwg (batiad cyntaf)= 378
Caint (batiad cyntaf) = 135
Caint (ail fatiad) = 0 am 0 wiced (1 belawd)