Dwyn gwerth £30,000 o sigaréts
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i werth £30,000 o sigarets gael eu dwyn o bedwar siop
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i werth £30,000 o sigaréts gael eu dwyn mewn siopau yng Nghaerffili.
Cafodd gwerth £10,000 ei dwyn o Tesco Extra yn Rhisga, a hynny wedi i'r lladron dorri mewn i'r siop ar ôl 11pm nos Fawrth Ebrill 30 ac oriau man y diwrnod wedyn.
Digwyddodd yr ail ladrad yn y Co-operative yn Nelson oriau man bore Mawrth Mai 21. Y tro yma werth £500 o sigaréts gafodd eu cymryd.
Ym mhentref Tretomas yng Nghaerffili fe aethpwyd a gwerth £4,000 o'r cyffur o siop Spar a hynny ar ôl 11pm nos Sadwrn y 1af o Fehefin a 7.30am bore Sul.
Yn yr un pentref fe aeth a'r lladron a sigaréts oedd yn costio £15,000 o Tesco rhwng yr 8fed a'r 9fed o Fehefin.
Mae swyddogion yn ymchwilio i'r holl ddigwyddiadau ac yn gofyn i unrhyw un sydd yn gwybod unrhyw beth i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101.