Roberts a Lydiate yn mynd i Ffrainc
- Cyhoeddwyd

Daeth cadarnhad y bydd dau aelod arall o garfan rygbi Cymru a'r Llewod yn chwarae yn Ffrainc y tymor nesaf.
Mae clwb Racing Metro '92 wedi dweud y bydd Jamie Roberts a Dan Lydiate yn symud i'r clwb ar ôl i Roberts adael y Gleision ac ar ôl i Lydiate adael y Dreigiau.
Roedd y ddau wedi cyhoeddi eu bwriad i adael Cymru ond doedd yr un o'r ddau wedi datgelu i ba glwb y bydden nhw'n chwarae.
Mae'r ddau ar hyn o bryd ar daith gyda charfan y Llewod yn Awstralia.
Fe fyddan nhw'n ymuno â rhestr hir o chwaraewyr Cymru fydd yn chwarae y tu allan i Gymru y tymor nesaf, gan gynnwys:
Mike Phillips (Bayonne);
Luke Charteris a James Hook (Perpignan);
Lee Byrne (Clermont Auvergne);
George North (Northampton);
Paul James (Caerfaddon);
Craig Mitchell (Caerwysg).
Bydd Gethin Jenkins yn ail-ymuno gyda'r Gleision ar ôl tymor gyda Toulon.
Daeth mwy o newyddion da i'r rhanbarth cyn diwedd y tymor diwethaf wrth i Leigh Halfpenny ac Alex Cuthbert gyhoeddi y byddan nhw'n aros yng Nghaerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd16 Mai 2012

- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2012
