Ffordd ynghau ar ôl damwain ddifrifol
- Cyhoeddwyd
Cafodd yr A541 ei chau i'r ddau gyfeiriad wedi damwain ddifrifol brynhawn Llun.
Roedd y ddamwain ym Mhontblyddyn, Sir y Fflint, a chafodd diffoddwyr o Wrecsam a'r Wyddgrug eu galw i ryddhau'r gyrrwr.
Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi cael galwad am 5pm.