Pryderon am swyddi ffatri Halo yn Nhywyn, Meirionnydd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryderon am rai swyddi yn ffatri Halo Foods yn Nhywyn, Meirionnydd.
Yno mae 143 yn gweithio ond y bwriad yw symud y gwaith cynhyrchu i Gasnewydd.
"Mi allai hyn olygu bod 120 o swyddi'n symud i Gasnewydd," meddai llefarydd.
"Ond bydd pob aelod staff o dan sylw'n cael cynnig symud."
Mae'r cwmni'n cynhychu barrau byrbryd.
"Wrth symud fe fyddwn ni'n fwy effeithlon ac yn fwy cost-effeithiol mewn marchnad fydeang sy'n fwy cystadleuol," meddai.
Bydd cyfnod ymgynghori o saith wythnos yn dechrau ddydd Iau.
Mae'n debyg y bydd yr adrannau datblygu cynnyrch, Technoleg Gwybodaeth a'r siop fanwerthu'n aros yn Nhywyn.