Pennaeth Plant Cyngor Sir Penfro yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd

Dywed Cyngor Sir Benfro y bydd y pennaeth gwasanaethau plant yn dychwelyd i Loegr
Mae Pennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Penfro, Nicola Francis, wedi ymddiswyddo.
Daw'r cyhoeddiad wedi i'r Comisiynydd Gwybodaeth ddweud ei fod yn ymchwilio i gyhuddiadau fod y cyngor wedi datgelu gwybodaeth sensitif i unigolyn a hynny yn groes i Ddeddf Gwarchod Data.
Yr wybodaeth oedd adroddiadau sensitif ynglŷn â 10 o blant oedd wedi eu cam-drin yn rhywiol.
Dioddefwr arall
Roedd honiadau fod gwybodaeth wedi cyrraedd dwylo dioddefwr arall.
Roedd yr unigolyn hwnnw wedi gofyn am wybodaeth am ei hun.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi dweud y byddan nhw'n cydweithredu gyda'r comisiynydd.
Mewn datganiad mae'r cyngor wedi dweud y bydd Nicola Francis yn dychwelyd i Loegr er mwyn dilyn cyfleoedd gyrfa eraill ac wedi diolch iddi am ei gwaith.